Lleoliad:
Cynhadledd fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Chwefror 2024
Amser:
09.00 -
09.28
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Lesley Griffiths AS Darren Millar AS Elin Jones AS, Llywydd |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Llinos Madeley, Clerc - Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Yn unol â Rheol Sefydlog 6.18, ar gais y Llywydd, cafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45 munud)
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm
Dywedodd y Dirprwy Lywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd Pwyllgor y Senedd Gyfan yn ymgynnull am gyfarfod byr, yn syth ar ôl y Cyfarfod Llawn, i ystyried cynnig i gytuno ar y Drefn Ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 27 Chwefror 2024
·
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol: Mesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach (45
munud) symudwyd ymlaen
i 20 Chwefror
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y Cynllun Gweithredu LHDTC+ (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i Gomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru (30 munud)
Gofynnodd Heledd Fychan am ddatganiad llafar ar fuddsoddi mewn addysg a hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal iechyd, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 14 Chwefror. Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Llywodraeth yn ystyried y cais.
Gofynnodd Darren Millar am ddatganiad llafar ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Dywedodd y Trefnydd na fyddai datganiad llafar yn cael ei drefnu nes bod ymgynghoriad ar y Cynllun wedi cau ar 7 Mawrth, ac y dylai'r Aelodau annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae’r Cynllun wedi’i ddylunio achub ar y cyfle i ymateb i'r ymgynghoriad.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 13 Mawrth 2024 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlenni diwygiedig ar gyfer craffu ar y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a’r Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru).
Nododd y Pwyllgor y papur.
Nododd y Pwyllgor y papur.
Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwrdd yn gynharach ar 26 Chwefror.
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar Rannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor a chytunodd i gynnal trafodaeth bellach yn y cyfarfod nesaf, yn dilyn trafodaethau gyda grwpiau pleidiau.